Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff sy'n datblygu a chyllido'r celfyddydau yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw Cymru greadigol lle mae’r celfyddydau wrth wraidd bywyd ein cenedl.
Dyma'n blaenoriaethau:
- cefnogi creu celfyddyd wych
- annog rhagor o bobl i fwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt
- ehangu economi’r celfyddydau
- gwneud y Cyngor yn fusnes effeithiol ac effeithlon
Yn ogystal â chefnogi a datblygu gweithgarwch celfyddydol o ansawdd uchel, ymysg ein gweithgareddau dyddiol fel sefydliad rydym yn:
- dyrannu arian y Loteri
- rhoi cyngor ar y celfyddydau
- rhannu gwybodaeth
- codi proffil celfyddydau Cymru
- cynhyrchu mwy o arian i economi'r celfyddydau
- dylanwadu ar gynllunwyr a phenderfynwyr
- datblygu cyfleoedd rhyngwladol yn y celfyddydau
- hyrwyddo perfformiadau bychain yn y gymuned
Ein rôl ni yw sicrhau bod cyfraniad y celfyddydau yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a'i ddathlu.