Cyngor Celfyddydau Cymru | Sarah Carvell: New Paintings Martin Tinney Gallery 04/05/2012

Sarah Carvell: Peintiadau Newydd

Dechrau chwiliad newydd

Ychwanegwch fi at y Cyfeiriadur Celf!

Mewngofnodi / Cofrestru
Sarah Carvell: New Paintings Martin Tinney Gallery 04/05/2012

Ganwyd Sarah yn Sir Caerlyr ym 1964, a magwyd yn Llannefydd, Clwyd. Addysgwyd yn Wrecsam a chyflawnodd radd gelf yng Ngholeg Celf Loughborough. Mae’n byw ac yn gweithio yn Sir Ddinbych ac yn siarad y Gymraeg yn rhugl.

Mae Sarah’n peintio mwynder Sir Ddinbych, ac ymhellach draw at arfordir Porthmadog. Mae hi’n dangos nodweddion adnabyddus yn ogystal a llefydd di-nôd, sy’n ffurfio tirwedd amrywiol gogledd Cymru. Dywed am ei gwaith mwyaf diweddar;

“Fy nod yw i ddangos golau, neu’n hytrach, cysgodion a geir ar y tirlun. Mae’r rhan fwyaf o’r peintiadau yn awgrymu presenoldeb dynol; gyda cytiau, ysguborau, adeiladau, neu perthi.”

Dywed Sarah bod gwaith Nicolas De Stael a Syr Kyffin Williams yn ysbrydoliaeth iddi, yn enwedig yn y modd y bydd yn taenu paent yn drwchus, gyda dull ‘impasto’. Wrth ystyried y casgliad newydd, dywed Sarah bod dylanwad artistiaid megis Richard Wilson a Edward Hopper i’w weld yn glir, yn enwedig o ran lliw a chysgodion.

Yn awr yn ei phedwardegau, mae Sarah yn brysur sefydlu ei hun fel un o artistiaid tirlun mwyaf blaenllaw Cymru, ac mae’r galw am ei gwaith yn cynyddu. Dyma gyfle gwych i brynu gwaith un o artistiaid disglair y dyfodol sydd yng nghyfnod cynnar ei gyrfa.

Oriau agor: Dydd Llun - Dydd Gwener 10 – 6 y.h. a Dydd Sadwrn 10 – 5 y.h.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245